Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/76

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ni chyffroisai Cadwaladr ddim pe buasai fo'n gwel'd y Cynddiliwiaid yn codi o'r ddaear, ac yn llenwi'r holl wlad o Ddolgellau i'r Bermo; mi gwela fo'n rhoi'i spectol am ei drwyn, ac yn edrych arnyn nhw.—Beth ydi'r rhain tybed; medd o, yn wir, dacw'r hen Nimrod, on te hefyd! ie, y fo ydi o rwy'n siwr braidd." Byddai yr hen frawd yn mwynhau y disgrifiad uchod, a roddai yr hen ddisgrifiedydd penigamp o hono yn fawr iawn. Ond

FEL PREGETHWR,

y mae a wnelwyf fi âg ef yn awr; ac fel y cyfryw, yr oedd ganddo ei safle briodol ei hun yn mysg ei frodyr, nid oedd yn meddu ar dreiddgarwch ac angerddolder Morgan, o Fachynlleth, na grymusder meddyliol Michael Jones, o Lanuwchllyn; nac athrylith Williams, o'r Wern, &c., ond yr oedd mor siwr o'i fater ag yr un o honynt. Yr oedd ol arafwch, a gofal, a phwyll, a barn, ar gyfansoddiad ei bregethau, yn gystal ag ar y traddodiad o honynt yn yr areithfa. Ni thaniai y fellten yn ei lygad; ni chanfyddid dychrynfeydd yn ei wedd; ac ni chlywid swn y daran yn ei lais; ac ni theimlid y gwynt nerthol yn rhuthro, na'r gwlaw mawr ei nerth yn disgyn braidd un amser, yn ei bregethiad ef. Afon hyd ddol-dir gwastad, oedd ei weinidogaeth ef—"Dyfroedd Siloa yn cerdded yn araf," ydoedd. Gwelir ambell afon fel pe byddai ar frys gwyllt am gyrhaedd y môr, chwyrnu megys yn ddigofus ar y cerig a safant yn ei ffordd, tra y mae un arall fel yn caru ymdroi, ymddolenu, ac ymfwynhau ar ei thaith i adlewyrchu pob gwrthddrych yr elo heibio iddo ar wyneb ei dyfroedd. Cyffelyb oedd afon ei weinidogaeth yntau. Nid oedd mor gyfaddas i'r gwaith o dynu i lawr a chwalu cestyll a muriau o ddifrawder ac anystyriaeth, ag ydoedd i adeiladu meddyliau yn ngwirioneddau a ffydd yr efengyl. Nid ei gwaith priodol hi oedd arloesi a diwreiddio y drain a'r mieri, ond yn hytrach planu a maethu y ffinwydd a'r myrtwydd.

Yr oedd wedi myfyrio a deall duwinyddiaeth athrawiaethau yr efengyl yn dda, ac felly wedi ffurfio barn bwyllus a