Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/84

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

un farn a hwy yn y dyddiau diweddaf hyn. Gellir yn hawdd roddi cyfrif am y gwahaniaeth yna, pan ystyrir, mai yr Hen Ysgol Galfinaidd oedd yn eu galw hwy yn Arminiaid, ac mai yr un Arminaidd sydd yn cyhuddo eu dysgyblion o Uchel-Galfiniaeth; a diau fod y bobl sydd yn arfer amddiffyn eu golygiadau trwy lysenwi a gwarthruddo eu gwrthwynebwyr, pan na allant ateb eu rhesymau, yn byw, bob amser, mewn eithafion, ac annghysondeb. Yn y flwyddyn 1821, dan ymosodiadau a chamddarluniadau eu gwrthwynebwyr, dechreuodd yr Ysgol Galfinaidd newydd, yn Ngogledd Cymru, deimlo yn gryf fod arnynt angen am gyhoeddiad misol i egluro ac i amddiffyn eu golygiadau ar athrawiaeth yr Efengyl, ac i wasanaethu yr enwad y perthynent iddo mewn pethau eraill. Addfedodd y peth yn raddol yn eu meddyliau; ac ar y dydd cyntaf o Dachwedd, yn y flwyddyn uchod, mewn cyfarfod a gynhaliwyd yn Ninbych, cydunwyd i gychwyn cyhoeddiad rhydd i'r dybenion a nodwyd, a daeth un Rhifyn allan, fel engraifft o'r hyn a fwriedid gael, yn mis Tachwedd, 1821; galwyd sylw yr eglwysi a'r cynnulleidfaoedd at y mater, a llwyddodd yr anturiaeth.

Y mae y cytundeb gwreiddiol rhwng cychwynwyr y Dysgedydd, yr hwn a ysgrifenwyd yn y cyfarfod crybwylledig yn Ninbych, yn awr ger bron; a diau, mai dyddorol fydd gan ddarllenwyr y cofiant hwn gael gwybod ei gynnwysiad. Ni a'i rhoddwn yma fel y mae yn yr iaith Saesoneg, ac heb ei gyfieithu. Dyma fo:-

ARTICLES OF AGREEMENT, &C

1821, Nov. 1st.

1. We, whose names are underwritten, have all and severally agreed, to publish a Monthly Magazine, to be called Dysgedydd Crefyddol, price 6d. per No.

2. That we shall forward to the Editors, some Article or other for insertion monthly, and encourage our friends in our respective neighbourhoods to do the same.

3. That in case of loss attending the undertaking, we will bear it share and share alike: but if it should produce any gain, we shall consider ourselves entitled, severally, to a portion thereof, and the rest rt our discretion to be applied towards religious purposes.

D. Jones, Holywell.