Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/83

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

au yn eofn a digêl. Y canlyniad fu, bloedd uchel yn eu herbyn o bob cyfeiriad. Yr oedd eu brodyr o'r hen ysgol Galfinaidd yn eu gwrthwynebu ar un llaw; a'r Arminiaid ar y llaw arall; ond defnyddiasant hwy yr areithfa a'r wasg i amddiffyn eu syniadau, a gorchfygasant y ddwy blaid. Cy- hoeddodd y Parch. J. Roberts, o Lanbrynmair, ei lythyrau "Ar ddybenion Cyffredinol a Neillduol Dyoddefaint Iesu Grist," yn y flwyddyn 1814. Daeth yr hybarch Thomas Jones, o Ddinbych, allan i wneuthur sylwadau arnynt, yn y flwyddyn 1819. Ysgrifenodd Mr. Roberts, drachefn, attebiad i sylwadau Mr. Jones, mewn ugain o bennodau, yn nghyd ac Atddodiad, yn cynwys traethodau byrion ar amrywiol bynciau y dadleuid yn eu cylch. Ysgrifenwyr y byr-draethodau oeddynt y brodyr W. Williams, Wern; D. Morgan, Mach- ynlleth; R. Everett, Dinbych; M. Jones, Llanuwchllyn; J. Breese, Liverpool; a rhoddodd C. Jones, Dolgellau Ol-ys- grifen," i ddiweddu y cwbl. Gelwid y llyfr hwn "Y Llyfr Glas," am fod ei glawr o'r lliw hwnw, mae yn debygol. Bu curo didrugaredd ar Y Llyfr Glas" o'r areithfaoedd, a thrwy y wasg: ond ni wnaeth ei ysgrifenwyr ond ychydig o sylw o'r ymosodwyr. Aethant hwy yn mlaen yn ddigynwrf, fel y mae dyfroedd dyfnion yn arfer ymsymud, tra y mae ffrydiau beision yn llawn cyffro a thwrw trwy yr holl oesoedd. Nid oedd gwaith eu gwrthwynebwyr yn eu gosod allan fel Armin- inid yn tycio dim. Daliasant hwy eu tir yn ddiysgog, a magasant oes o feddylwyr cryfion yn nghynulleidfaoedd yr Annibynwyr, yn ngogledd Cymru, y rhai oeddynt mor bell oddiwrth Arminiaeth, ar y naill law, ag oeddynt oddiwrth Uchel-Galfiniaeth, ar y llaw arall. Ysgrythyrwyr oedd ys- grifenwyr Y Llyfr Glas,' hwy a'u dysgyblion. Credent bob gair sydd yn y Beibl, a chysonent ei wahanol ranau a'u gilydd goreu ag y gallent, ac yn ol dim a ymddengys buont yn fwy llwyddianus i ddangos cysondeb y Dwyfol Wirionedd nag y buasai yr Hen Ysgol Galfinaidd, na'r Ysgol Arminaidd ychwaith. "Arminiaid" a waeddid ar eu holau hwy y pryd hwnw; ond Uchel-Galfiniaid a waeddir ar olau pobl o'r