Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/90

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fel y sicrheir dychweliad tyrfa ddirif o dir damnedigaeth i afael bywyd tragwyddol.

Ond ni addefir un o'r ystyriaethau hyn gan R. J. Gŵyr yn dda os addefa un o honynt fod yn rhaid iddo ar yr un pryd addef yr Etholedigaeth mewn dadl, oblegid fod yr Ysbryd yn gwneyd mwy i'r rhai sydd yn eu hiawnddefnyddio nag i'r rhai sydd yn eu camddefnyddio; ac os ydyw yn gwneyd mwy i rai nag eraill, rhaid ei fod wedi bwriadu hyny er tragwyddoldeb, yr hyn a gynnwys Etholedigaeth yn ei chyflawn nerth. Yn hytrach nag addef hyn, golyga R. J. mai dyn o hono ei hun ydyw yr achos fod rhai yn iawnddefnyddio yr oll mae efe yn ei ystyried yn foddion achub; megys "gweinidogaeth yr efengyl, yn nghyda'i dylanwad ar y meddwl," yr hyn a eilw efe "yr Ysbryd Glân."

Y mae y dybiaeth hon yn ymddangos i ni yn taro yn hollol yn erbyn rhediad eglur y Beibl. 1. O herwydd y darluniad a wneir o ddyn wrth natur. Oni ddywedir yma fod dyn wrth natur ac o hono ei hun yn "dywyllwch," Eph. v. 8: "Yn feirw mewn camweddau a phechodau," Eph. ii. 1: "Yn elyn i Dduw," Rhuf. v. 10; Col. i. 21; "Meddylfryd ei galon yn ddrygionus bob amser," Gen. vi. 5: ac heb "ddim. da yn ei gnawd yn trigo," Rhuf. vii. 18. Oddieithr i ni fyned a'r achos o rinweddau moesol yn mhellach na'r dyn o hono ei hun, nid yw amgen na haeru fod tywyllwch o hono ei hun yn troi yn oleuni yn yr Arglwydd—y marw o hono ei hun yn dyfod yn fyw—gelyniaeth o honi ei hun yn cymmodi â Duw—perffaith ddrygioni yn troi yn rhinwedd—ac ymddi— fadrwydd o ddaioni yn dyfod yn ddaioni sylweddol? Y mae yr hwn sydd dan lywodraeth tywyllwch mor sier o barhau felly, o'i ran ei hun, ag ydyw y dall mewn ystyr naturiol of beidio gweled—y marw naturiol o beidio byw—ac un dan lywodraeth gelyniaeth at Dduw o beidio ei garu. Nid am nad oes ganddo alluoedd naturiol i weled y mae yn dywyllwch, ac heb weithredu fel dyn byw ysbrydol, a gwneuthur daioni: ond am nas myn weled, caru, credu, gwneuthur daioni, &c. Nid yw yr anallu hwn yn esgusodi neb, yn gymaint a'i fod