Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/121

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Yr wyf fy hun wedi llwyr roddi fyny fân gystadleuaethau."

Dechreuodd ei waith fel golygydd yn 1872, pryd y cychwynnwyd y Gerddorfa dan olygiaeth Dewi Alaw ac yntau; ond oherwydd gwaeledd ei iechyd (a'i ddyletswyddau masnachol) gorfu arno roddi'r swydd i fyny ymhen y flwyddyn; ac er ail-ymaflyd ynddi drachefn ym Mehefin 1875, ni allodd ddal ymlaen ymhellach na Medi 1876. Oherwydd ystad ei iechyd treuliodd aeaf 1877-78 yn Ventnor, Isle of Wight.

Yn rhai o'r ysgrifau gwelwn y "banergludydd " yn ymddangos, a dechreuad yr ymgyrchoedd yn erbyn cystadleuaeth (pan yn feistres i gerddoriaeth ac nid yn forwyn) ac ar ran delfryd uchel a phur ynghyd ag ehangiad y cylch cerddorol mewn cyfansoddi a chanu. Cymerer a ganlyn o erthygl arweiniol Medi 1872:—

"Ystyriwn fod dyledswydd arnom fel cenedl gerddorol i feithrin mwy ar wahanol arddulliau o gerddoriaeth. Ni welir ac ni chlywir ond y ganig fyth a hefyd. Beth yw y rheswm?

"Efallai y gellir rhoddi mwy nag un rheswm; yn un peth, am fod tuedd yn ein prif gerddorion i foddloni y dosbarth iselaf ei chwaeth a mwyaf eu hanwybodaeth, yn hytrach na boddloni eu hunain, yr hyn ni wnaeth gwir athrylith erioed o’i bodd. Fel rheol ni cheisiodd Handel, Bach, Mozart, Beethoven, Mendelssohn, etc., ddarostwng eu hunain, er boddio chwaeth a theimladau y werin a gyd-breswyliai â hwynt: boddloni eu chwaeth a'u teimladau eu hunain a wnaent hwy, gan ddiystyrru gwawd y rhai hynny na allent werthfawrogi