Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/123

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o gwbl. Eu cŵyn yw fod Mr. Parry wedi ei enwi'n feirniad; fod y cyfansoddiadau wedi eu gyrru i fewn yn unig ar y dealltwriaeth hynny; nad oeddynt am ddweyd dim yn erbyn y beirniaid eraill, yn unig nad oeddynt yn meddu ar ymddiriedaeth y protestwyr. Y mae y nodyn hwn, y gellir ei alw'n Burdeb cystadleuol (ar ran pwyllgor, beirniad, a chystadleuydd) yn un sydd i'w glywed yn glir drwy ei holl gyfnod nesaf.

Erfynnir am sylw'r darllenydd —yn neilltuol y darllenydd sydd yn teimlo diddordeb mewn datblygiad moesol—at y dyfyniad a ganlyn—

Yr ydym wedi bod o'r farn ers tro mai goreu peth i'n cyfansoddwyr fyddai cymeryd ychydig anadl gyda'r dwymyn ganigol, a pheidio gwastraffu eu nerth, ac anaddasu eu hunain at weithiau o bwys drwy gyfansoddi mân ganigau, anthemau etc., a hynny to order eisteddfodol. Rhoddir i bersonau eu gwahanol safleoedd yn nheml awen, nid yn ol rhif eu cynyrchion, ond eu pwysigrwydd.

"Ni a hoffem yn fawr gael ein cyfeillion i'r dull hwn o feddwl, ond ymddengys fod deniadau cystadleuaeth yn rhy gryf iddynt."

Y mae yma (1874)—yn wahanol i ysgrif Medi 1872 —yn pwysleisio delfryd mawr yn hytrach na delfryd uchel, annibynnol ar chwaeth y lliaws.

Gwelir cysgod yr un delfryd ar ei adolygiad ar Rangan Rhyfelgan y Myncod Joseph Parry:—

"Mae y wlad yn naturiol yn disgwyl oddiwrth un sydd wedi cael manteision cerddorol mor uchel, a'r hwn sydd yn bresennol a'i holl feddwl yn rhydd at feddyliaeth gerddorol mewn rhyw ffurf neu gilydd, gynyrchion o radd tra uchel. Efallai fod