Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/130

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

FEL CYFANSODDWR A CHERDDOR.

A.—Gan DR. PROTHEROE.

XIV.

Y MAE cyfnodau ar fyd y gân fel ar bob celfyddyd arall. Weithiau fe gawn gyfnod y rangan; bryd arall caiff y chwaraegerdd le amlwg. Wedi hynny dyma ddydd y tone-poem a'r symffoni. Yn ein byd bach ni yng Nghymru, nid rhyw lawer o le a gawsom i yshoncio, gan mai ychydig o dir a feddiannwyd hyd yn hyn gan ein cyfansoddwyr. Eto, fe gawn gyfnodau hyd yn oed yn ein hanes cerddorol ni.

Lai na chanrif yn ol tipyn yn dywyll ydoedd hi ar ein ffurfafen gerddorol—nid oedd yna na lloer na seren yn y golwg, a phur amrwd a dilun oedd y cyfansoddiadau a gyhoeddid. Gwir fod ein halawon gwerin yn ddihafal, ond yr adeg y synnid y byd cerddorol gan symffonïau y cawr Beethoven, y gogleisid cerddgarwyr gan awen nef-anedig Mozart, neu y swynid hwy gan ganeuon bytholwyrdd Schubert, tawel ydoedd hi yng "Ngwlad y Gân." Ymhen tipyn, dacw oleu i'r cwmwl, ac wele "sêr goleu, eglur" yn ymddangos yn John Ambrose Lloyd a Stephen Tanymarian. Tywynnai seren arall ar yr un adeg, er nad o'r un disgleirdeb —Owain Alaw. I'r cyfnod yna yr ydym yn ddyledus am y "Blodeuyn