Olaf," "Teyrnasoedd y Ddaear," a'n horatorio gyntaf —"Storm Tiberias." Sonia'r hen bobl yn aml am y deffroad crefyddol hwnnw a adnabyddir erbyn hyn fel Diwygiad '59. Cafwyd deffroad arall—yn y blynyddoedd dilynol—yn y '60s, ond mai un cerddorol ydoedd. Dyma efallai gyfnod aur y rangan yng Nghymru. Dyma'r adeg y daeth Dr. Joseph Parry a'i Don o flaen gwyntoedd; John Thomas, Llanwrtyd, a'i Nant y mynydd Gwilym Gwent a'i Haf; Alaw Ddu a'i Wlithyn, ac yn olaf oll, ond nid y lleiaf, Emlyn a'i Wanwyn.
Nodweddid y rhanganau gan dlysni a swyn: gwelid prydferthwch natur yn y cwbl. Nid oedd yno ddim ymgais at y mawreddog, ond canai'r cwbl mor naturiol a
"Nant y mynydd, groew loew
Yn ymdroelli tua'r pant."
Credaf fod a wnelo amgylchoedd (environment) lawer â theithi meddwl, ac y mae'n rhaid fod golygfeydd arddunol Castellnewydd Emlyn a'r wlad oddiamgylch wedi gwneuthur argraff annileadwy ar feddwl y cerddor, gan fod yn hawdd canfod adlewyrchiad ohonynt yn ei weithiau. Y cain a'r pur, y swynol a'r prydferth ddaw i'r golwg amlaf.
Yn fore iawn yn ei hanes yr oedd gan Emlyn allu i ganu melodi bur,—melodi a ganai; melodi a roddai ddarluniad o'r geiriau. Gyda hyn meddai grebwyll i ddal ar y pethau goreu, ac er na chawsai wersi gan neb, hyd y gwyddom, eto astudiodd y gweithiau clasurol, a thra'n byw yn Cheltenham achubodd lawer cyfle i roi tro i'r Brifddinas i wrando'r clasuron ac i goethi ei feddwl drwy wrando ar rai o brif gantorion y cyfnod.