chenid hwynt gan ein corau heddyw; ond credaf yn ddibetrus eu cenir yn y dyfodol. Ym myd y dôn gynulleidfaol, saif yn y rheng flaenaf. Yn wahanol i Dr. Parry, mae tonau goreu Emlyn yn y Cywair Mwyaf, ac yn dra thebig o ddal yn iraidd 'am ragor o amser. Credodd Dr. Parry oherwydd poblogrwydd Aberystwyth, mai'r minor oedd bron y cyfan i'r Cymry. Camsyniad oedd hynny, canys y Cywair Mwyaf sydd yn para hwyaf yn hanes cerddoriaeth yr Eglwys. Ar wahân i gyfansoddi tonau, ychydig o'r genedl a ŵyr am ei waith ardderchog ynglŷn â llyfrau tonau'r Eglwys, y Wesleaid, heblaw llyfrau'r enwad y perthynai ef ei hun iddo. Edrychid arno fel y pen cynghorydd parthed cyfaddasu a dewis tonau cynulleidfaol. Ceidwadwr oedd yn y byd cerddorol,—nid rhyw lawer o gydymdeimlad oedd ganddo â'r ysgol ddiweddaraf, a phan fyddem yn cystadlu, mawr ein hofn rhag ei sylwadau miniog, os byddem a chwant dewr rodio tiroedd gwaharddedig y gerdd, fel rhyw drawsgyweiriad gwyllt a direol, neu fympwy am oddity cynghaneddol. Byddai'r inc coch bob amser ar y mannau gwahanglwyfus.
Yr oedd yn artist cynhenid, ac ni wn am un cyfansoddwr Cymreig a fedrai wneuthur cymaint defnydd o motif, wrth droi a throsi, a gwisgo mewn gwahanol liwiau, a'r cwbl yn y diwedd mor daclus a chryno. Yr oedd yn llawdrwm iawn, er yn dyner, pan welai gyfansoddwr ieuanc yn gwastraffu defnyddiau wrth ddwyn gormod o fater i'w waith, a rhy fach o ddatblygiad.
Faint bynnag a ddywedir amdano fel cerddor a beirniad, fel dyn yr oedd fwyaf y bersonoliaeth eiddgar sydd yn aros, y llygaid treiddgar, a'r siarad