Prawfddarllenwyd y dudalen hon
chwareus a miniog. Dygai i'n cof bob amser yr hyn a ddarllenem am bobl athrylithgar, yn neilltuol am R. L. Stevenson, etc. Mawr oedd ei garedigrwydd i gerddorion pan yn dechreu blaguro,—cynghori, treulio dyddiau i edrych dros eu cyfansoddiadau, a'r cyfan am ddim. Yn ddiau ni fu ei gyffelyb yn y wlad erioed am dro caredig, yn ogystal ag ambell i ergyd tost. Hawdd i mi ydyw ysgrifennu'n gynnes iawn amdano; darllen ei wahanol feirniadaethau oedd yr unig goleg a gefais i; ac fel yr ysgrifennais flynyddoedd yn ol, ef, o'r holl gerddorion Cymreig y deuthum i gysylltiad â hwy, a adawodd yr argraff ddyfnaf ar fy meddwl. Mae ei goffa yn annwyl iawn gennyf, a charwn weld rhagor o'i debig yn codi yng Nghymru.