XV
Y BANERGLUDYDD.
GYDA golwg ar gyfansoddi, gallesid meddwl ei fod wedi cael ei ddymuniad bellach, ac yn mwynhau'r hamdden (o leiaf o 1891 ymlaen), y bu'n sychedu amdano gyhyd, i ddangos ei allu mewn rhyw waith gorchestol—cyfanwaith mawr—fyddai'n goron ar ei greadigaethau llai. Credai ei gyfeillion yn ei allu, a cheisient ei symbylu i gyfansoddi, fel y buont ddiweddarach yn ei annog ysgrifennu llyfr safonol ar Hanes Cerddoriaeth Gymreig. Ond er fod yr ysbryd yn barod, ni wyddent hwy fod y cnawd mor wan. Rhwystr arall oedd yr un ariannol. "Llosgodd ei fysedd" drwy gyhoeddi Y Tywyth Teg ar ei gyfrifoldeb ei hun; a rhwng popeth ni fuasai wedi gorffen Cantawd Y Caethgludiad oni buasai i Mr. D. Jenkins addaw ei chyhoeddi. Yr oedd y geiriau—o waith Goldsmith —wedi bod yn ei feddwl oddi ar amser Henffordd, ac yr oedd wedi dechreu cyfansoddi. Yn ddiweddarach, gyda help y cymhellydd uchod, ymrodd i'w gorffen, a pherfformiwyd hi gyda chymeradwyaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Rhyl, a llawer o fannau eraill. Ond y gwir yw, er y rhoddid canmoliaeth uchel i'r gwaith, nad oedd ganddo mo'r grym nerfol i losgi fel cynt. Gwir fod amryw o'r prif gerddorion wedi cyfansoddi rhai o'u prif weithiau ar ol pasio canol oed; ond y mae hyn yn aml yn fater o dymheredd (temperament) ac yn wastad yn fater o gryfder ac iechyd. Ni ddisgwyliai Emlyn fyw i fod yn