Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/140

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hanner cant oed, a chyn cyrraedd yr oedran hwnnw bu'n gorfod ffoi rhag gerwinder y gaeaf o'i froydd ei hun i wlad yr haf. Heblaw yr anhawster cynhyddol gyda'r anadi, yr oedd ymosodiadau y gastritis a ymaflodd ynddo adeg dyddiau ei orlafur yn Cheltenham yn mynd yn fwy ffyrnig a phoenus gyda threigl y blynyddoedd; fel erbyn 1893 yr oedd ei gorff yn dra bregus, a dim ond nerth ewyllys eithriadol gref, a llawer o hunan-reolaeth a threfnusrwydd, a'i galluogodd i gyflawni'r gwaith a wnaeth yn rhannau olaf ei fywyd.

Clywn acen ing anallu yn y geiriau a ganlyn mewn ateb i ymgais ei gyfaill o Aberystwyth ac eraill gael ganddo ysgrifennu hanes Cerddoriaeth yng Nghymru:—

"Nid ydyw yn ymddangos eich bod yn deall sut y mae gyda mi o ran ystad fy iechyd. Yn sicr, nid wyf am wthio y mater yma o iechyd ar sylw neb; ond pan y mae un yn siarad mor ysgafn am ddechreu cyfres o erthyglau ar destyn sydd mewn ystad hollol hylif (fluid)—os yw felly hyd yn oed a gorffen llyfr nad yw eto wedi ei ddechreu, y mae'n bryd galw allan am sobrwydd a synwyr. Byddai'n dda gennyf pe buaswn wedi ymgymeryd a'r gwaith flynyddau'n ol; byddai'n well fyth gennyf tae Gwyllt wedi ei ddechreu; a buaswn yn falch tae'r N.E.A. wedi derbyn fy awgrymiadau ynghylch y fath waith flynyddau'n ol—er nad oedd gennyf syniad pwy a'i hysgrifennai, ac yn sicr ni chystadleuwn i fy hunan. Ond y mae hyn oll yn hen hanes erbyn hyn, ac ymhlith y pethau a fu. Os caf iechyd a chryfder i hynny, efallai y gwnaf rywbeth eto, ond rhaid iddo fod yn waith