o bleser a hamdden yn hollol, nid yn dasg beiriannol."
Ac os oedd hyn yn wir ynglŷn â gwaith nad oedd ond yn gofyn meddwl clir, ymchwiliad gofalus, a gallu i ffurfio a mynegi barn, beth am fynd i'r ystad eirias y mae'n rhaid wrthi cyn ysgrifennu gwaith creadigol o unrhyw werth?
Gall yr ymadrodd uchod "Nid yw yn ymddangos eich bod yn deall sut y mae gyda mi" esbonio pam yr oedd, yn wahanol i'w gyfeillion, yn cadw draw o gyfarfodydd yr Wyl Gerddorol yn Henffordd, ac o gyngherddau'r Eisteddfod—yr oedd y draul mewn ynni nerf yn ormod; yr oedd ef dan yr angenrheidrwydd o gynhilo hwnnw i gwblhau'r gwaith y tybiai ef ei bod yn rhaid ei wneuthur. Drwy ofal a chynhildeb felly yn unig y gallodd fynd drwy waith ei flynyddoedd olaf. Ar y llaw arall, pan daflai'r ffrwyn ar war ysbryd y gân ambell i waith—fel уг oedd temtasiwn i wneuthur gyda chyfeillion—ei dâl, fel eiddo'r meddwyn, fyddai gwely drain a gŵyl drannoeth." Gwyddom am eraill y tu allan i fyd y gân—rhai llai llednais eu giau a mwy prin eu teimladrwydd nag ef—sydd yn gorfod ymgadw rhag yr ysu a'r difa nerth hwnnw a ymyrrai â'u gwaith a'u heffeithiolrwydd yn ol llaw.
Yn wir, gallesid meddwl fod cyfansoddi 30 o anthemau (24 yn gyhoeddedig), 50 o ganigan a rhan-ganau (30 yn gyhoeddedig), 40 o ganeuon (33 yn gyhoeddedig), 80 o donau cynulleidfaol, 20 o ddarnau i blant, 6 deuawd, 6 cân a chytgan, nifer o gorawdau a madrigalau—heblaw'r gwaith arall cyn bod yn 50 oed, yn ddigon o gynnyrch o safbwynt maint a rhif, os hynny sydd eisieu. Wrth gwrs, i'r rhai sydd