yn plygu o flaen bwgan un cyfanwaith mawr, nid yw hyn yn ddigon; ond methwn weld pam y mae'n rhaid i'r safon fod yn fwy anianol ym myd Cerdd nag ym myd Barddas. Cydnebydd pawb ei fod yn llawn gymaint camp cyfansoddi telyneg berffaith ag yw cyfansoddi arwrgerdd, a bod y delyneg fach yn fwy o hanfod ym myd yr awen wir, os ydyw'n codi'n uwch mewn perffeithrwydd. Hyd yn oed ymysg athronwyr—gyda chynnydd eu gwyleidd-dra—y mae cyfnod y systemau mawrion wedi mynd heibio. Gellid dangos yr un peth oddiwrth gwrs datblygiad yn gyffredinol, onibâi mai ysgrifennu Cofiant yr ydym. Daeth Emlyn i weld hyn, nid yn unig yn ei berthynas ag ystyr ac amcan bywyd (gwêl Pennod XIII), ond hefyd y tufewn i fyd Cyfansoddiadaeth, fel y dengys y dyfyniad hwn:
"A thing of beauty is a joy for ever," eithr nid oes dim a fynno maint y peth â'i hyfrydwch di-ddarfod. Amcan y gwir gelfyddwr ymhob celf yw cyflawni ei waith yn y dull goreu, ac nid yw byth yn ymgymeryd â'r hyn sydd y tuhwnt i'w alluoedd i'w gyflawni yn y dull hwnnw."
Ymddengys hefyd oddi wrth yr hyn a ganlyn ei fod yn mabwysiadu safbwynt Rubinstein:—
"Adrodda Rubinstein hanesyn am Benvenuto Cellini, yr hwn pan yn brin o ddefnyddiau i wneud cerflun mawr i Frenin Ffrainc, a orfu doddi ei holl gerfluniau eraill i'r perwyl, ond pan y daeth at un cawg bychan petrusodd—nis gallai ddistrywio yr un bychan ond gwerthfawr hwnnw. Ac y mae y Wohltemperirte Clavier (gan Bach) yn gyffelyb' meddai Rubinstein; 'pe bae—yn anffortunus—i holl Gantodau Bach, ei Fotettau,