ei Offerennau, ie, hyd yn oed ei Ddioddefaint, i gael eu colli, ac nad oedd dim yn aros ond yr un trysor hwn, ni fyddai i ni ddigalonni—ni fyddai i gerddoriaeth gael ei llwyr ddinystrio."
Ymdrinia â'r un mater yn ei ysgrif ar "Berwi Lawr" yn Y Cerddor am Tachwedd, 1903. Gwelir ei bwynt yn y cyfeiriad a ganlyn at y bardd, wedi siarad am y pregethwr:—
"Yn gyffelyb gyda'n cyfeillion y beirdd, yn enwedig y rhai a 'chwenychant y prif gadeiriau.' Y milltiroedd o linellau awdlyddol sydd wedi eu cyfansoddi—a'u cyhoeddi o ran hynny—pa le y maent? Pwy sydd yn eu darllen a'u cofio? Pe bae eu hawdwyr wedi cyflwyno eu galluoedd tuag at gynhyrchu ychydig linellau fel Bedd y Dyn Tylawd,' neu Ti wyddost beth ddywed fy nghalon,' buasent wedi gwneud llawer uwch gwasanaeth i'r byd, ac wedi codi iddynt eu hunain ragorach cof-golofnau yr un pryd."
"Cyflwynodd ef ei alluoedd i gynhyrchu" rhai o bethau perffeithiaf yn y cyfnod hwn, megis Trewen, Eirinwg, ac Adgyfodiad ymhlith ei donau, y gân O Holy man of Sorrows, a'i rangan, How sweet the moonlight sleeps, y sylwyd arni eisoes. Eto, nid ym myd Cyfansoddiadaeth y gwnaeth ef waith mwyaf ei flynyddoedd olaf. Y mae dyn yn fwy na cherddor; ac y mae'n amlwg fod eisieu'r dyn ym myd y gân. Y mae rhai fel yn cael eu galw i ganu'n unig, fel adar, heb na chyfrifoldeb na chof am fuddiannau eraill; ond i ddal i fyny draddodiadau goreu'r gorffennol, a chynhyrchu eraill gwerth eu trosglwyddo i'r dyfodol, heb feddwl am lês hunanol, na gwrando ar faldordd y llu, y mae'n rhaid wrth y dyn. Os yw'r gair