cerddoriaeth rhoddi i ni bleserau nas gallwn eu hesbonio, ac yn codi ynom deimladau nas gallwn ymresymu yn eu cylch; gall ein diddanu a chydymdeimlo a ni pan yn drist, a'n difyru a'n diddori pan yn llawen; a medr ein trosglwyddo i awyrgylch lle nad oes le i fydolrwydd, na hunanoldeb, na thrachwant. Nid yw yn apelio at reswm, nac at egwyddorion. Nis gall bwyntio moeswers, mwy nag y gall baentio darlun; ac nis gall ymresymu mwy na phregethu. Ni fedr fod yn bersonol, yn duchanol, nac yn ffraethbert—nid oes le ganddi i Hogarth nag i Punch; ond ar yr ochr arall, anmhosibl iddi glwyfo na diwyno neb, canys cydymaith priodol yw i bob peth ag sydd yn gariadus, yn ddiniwaid, ac yn raslon. Y mae yn bur, nid i'r rhai pur yn unig, ond i bawb. Nis gall fod yn niweidiol ond pan yr ieuir hi â geir—iau anheilwng o'i phurdeb cynhenid—drwy ei phriodi yn anghymarus yn unig y gellir ei gwneyd yn foddion er drwg. I gerddoriaeth, pan y saif ar ei phen ei hun, y perthyn yr anrhydedd uchel ymysg yr holl gefyddydau, o fod yn anmhosibl iddi roddi mynegiant i un meddwl gwael, nac i awgrymu yr un dim ag sydd yn llygredig. Yng ngeiriau Ceiriog:—
'Addfwyn Fiwsig, Addfwyn Fiwsig, Gwenferch Gwynfa ydwyt ti!"
Yna cawn fras hanes o ddatblygiad cerddoriaeth; ac wedi cydnabod ein dyled i'r Troubadours am roddi cerddoriaeth ar y llwybr a ddylai gymryd,—nid fel math ar conundrum mesuronol sych, ond fel moddion i gyffwrdd â theimladau ac i fynegi dyheadau y galon ddynol, a'n dyled yn ddiweddarach i Galileo (tad y