Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oesoedd i ddod yn absenoldeb arholiadau a graddau. Y mae eiddo Emlyn ar gael, a dangosant raddau o ysgolheigdod a threfnusrwydd sydd yn hynod mewn un mor ieuanc (nid oedd ond deuddeg oed yn gadael yr ysgol). Profant hefyd fod yr ysgolfeistr yn gallu cyfrannu addysg a mynnu trefn feddyliol, gan nad faint o stŵr oedd yn yr ysgol. Dangosant, ymhellach, mai nid wedi mynd allan i fyd busnes y dysgodd Emlyn y destlusrwydd a nodweddai ei holl waith.

Y mae un yn fyw heddyw[1]—Mr. J Lloyd Davies, Casnewydd ar Wysg—oedd nid yn unig yn yr ysgol honno yr un pryd ag Emlyn, ond oedd hefyd yn dra chyfeillgar ag ef, ac a barhaodd felly hyd y diwedd— buont gyda'i gilydd " ar y ffordd " (fel Commercial Travellers) am flynyddoedd wedyn. Y ddau beth a saif yng nghof Mr. Davies amdano yw ei fywiowgrwydd direidus a chyflymder ei ddeall. Yr oedd Mr. Davies beth yn hŷn na'i gyfaill; ond hwynthŵy ill dau oedd top boys yr ysgol. Eto nid rhwydd credu i'w feistr ddweyd amdano, pan yn ddeuddeg oed, nad oedd ganddo ddim pellach i'w ddysgu iddo—ond dyna'r stori. Pan oedd ef yn ysgol y dref, yr oedd draper o'r enw Denis Lloyd yn cadw "Siop y Bont" — y tŷ nesaf ond un at bont Emlyn—ac wedi braidd ymserchu yn y llanc fel prentis dymunol, wrth ei weld yn pasio'n ol a blaen i'r ysgol. Ac er yn llawn nwyf a chware, nid oedd yn rhyw gryf iawn pan yn hogyn, a diau fod ei fam—a'i famgu, bid siŵr— yn ei ystyried yn rhy lednais i fod nac yn amaethwr nac yn adeiladydd, fel ei dadcu. Felly prentisiwyd ef yn Siop y Bont, lle y bu am dair blynedd. Amser

caled gafodd yma —oriau hirion, yn fwy felly o lawer

  1. 1914