nag a geir ar hyn o bryd, alluniaeth anghydnaws â chylla gwan, tra nad oedd pawb mor garedig iddo a'i feistr. Ond treuliai ei Suliau yn y Drewen, a Phen'ralltwen a Phontgeri, lle'r oedd ganddo gartref arall a chroeso mor gynnes ag un o'r lleill gan ei ewythr, John Jones, a'i ddwy fodryb. Dyddiau gwynion oedd y rheini pan gaffai ei draed yn rhydd o flin gaethiwed y siop, a pharhaodd y gwynder ar yr atgof amdanynt hyd y diwedd.
Yr oedd yn awr yn aelod yn eglwys y Drewen, ac yn canu yn y côr, fel y cawn weld. Y gweinidog rhwng 1840 ac 1850 oedd Robert Jones,—dyn a barodd gryn lawer o ymrafael yn yr eglwys, ac a fu farw ar dir gwrthgiliad. Nid oedd yr awyrgylch yn ffafriol i ffyniant gwir grefydd, a gadawodd llawer yr eglwys —tadcu Pen'ralltwen yn eu mysg. Eto, araf iawn y ciliai'r gogoniant oedd yno yn amser Benjamin Evans a John Phillips (mab Dr. Phillips, Neuaddlwyd) pan ddeuai y cannoedd ynghyd o bob cyfeiriad, hyd yn oed dros afon Teifi. Codwyd y llanc o leiaf yn adlewyrch y gogoniant hwn, er mai cymylog a chymysglyd oedd yr awyrgylch agos. Cyn ei ddilyn i Forgannwg, geilw ei ogwydd a'i fanteision cerddorol fel plentyn a llanc am sylw byr.