Yr Ail Gyfnod, 1860—1880.
VI.
Y DEFFROAD—"Y GANIG."
WRTH geisio olrhain perthynas Emlyn ag Ieuan Gwyllt, yr ydym eisoes wedi croesi i ail brif gyfnod ei hanes, pryd y daeth allan i fyd mwy yr Eisteddfod Genedlaethol a Chyfansoddiadaeth Gerddorol, ac i gwmni (drwy astudiaeth) pencerddiaid yr oesoedd a'r gwledydd.
Yr oedd y cyfnod hwn—yn dechreu tua 1860—yn un o ddadebru cyffredinol, y tu allan yn gystal â'r tu fewn i Gymru, a hynny yn holl diriogaethau bywyd, yn grefyddol, cenedlaethol, gwleidyddol, llenyddol, a cherddorol. Ond y mae i ddeffroadau ar y fath eu hamodau hanesyddol fel yr oedd Hiraethog ac eraill o ysgrifenwyr Y Faner wedi bod yn arwain i fyny at y deffroad cenedlaethol a gwleidyddol, yr oedd blaengloddwyr eraill wedi bod yn gweithio yn nhiriogaeth y gân. Yn awr—a newid ein ffugr—y torrodd y don o fywyd cerddorol a fu'n symud a chynhyddu o 1840 ymlaen mewn grym ac effeithiau a gerddodd drwy flynyddoedd i ddod.
Daw'r hanes ym Mhennod II a ni hyd 1850, ond rhwng 1850 ac 1860 ymddangosodd nifer o " sêr bore " y cyfnod newydd uwchlaw'r gorwel. Fan yma, y mae'n rhaid i ni gofio mai nid cyfnodau mewn amser yw cofnodau'r ysbryd yn gymaint ag mewn ansawdd.