Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/51

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Tra y gesyd Emlyn rai llyfrau (megis Y Blwch Cerddorol, a gyhoeddwyd wedi 1850) yn y cyfnod blaenorol, gesydweithiau eraill (megis Gramadeg Alawydd a'r Perganiedydd gan J. D. Jones) yn y cyfnod newydd. Am y rheswm hwn geilw'r cyfryw yn flaen-redegwyr (heralds). Yr oedd Ambrose Lloyd, "blaen-redegydd en einiedig y Gymru gerddorol oedd i ddod," er yn adnabyddus fel awdur uwchraddol ers blynyddoedd, yn awr wedi dod i'w lawn dwf gyda'i gantawd Gweddi Habaccuc, yn Eisteddfod Madog 1851. Dilynwyd hon gan Teyrnasoedd y Ddaear (ym Methesda) 1852, ac Anthem Manchester yn 1855.

Yn 1851 daeth awdur arall i'r amlwg yn dra sydyn ym mherson Owain Alaw, pan enillodd ar yr anthem Can Deborah a Barac Eisteddfod Rhuddlan; tra yn yr un flwyddyn dechreuodd y Parch. E. Stephen, Tanymarian, gyfansoddi Ystorm Tiberias, a gyhoeddwyd yn 1855, ac a gododd yr awdur i safle nad oedd yn ail i eiddo'r un o'r lleill.

Ond prif offeryn y deffroad cerddorol—y baner-gludydd, y proffwyd, a gariai faich y deffroad ar ei ysgwyddau ddydd a nos, ac a feddiennid yn llwyr gan ei ysbryd cyn iddo dorri allan yn gyffredinol, gan deithio i ddarlithio i bob cwr o'r wlad ar ei ran, a defnyddio'i ysgrifell ddiwyd yn ei achos, a'r hwn wedyn a gychwynnodd r Cerddor Cymreig i'w arwain, a'i buro—oedd Ieuan Gwyllt. Heblaw hyn, rhwng 1850 a 1859, bu'n partoi ei Lyfr Tonau, gan felly ieuo'r deffroad cerddorol â'r un crefyddol, a chynhyrchu chwyldro yn ein caniadaeth gysegredig. Y mae'r ffaith fod dwy fil ar bymtheg o gopïau wedi eu gwerthu ymhen pedair blynedd yn profi ei fod yn llyfr cyfaddas i'r amser.