yr unawdydd (tenor) mewn perfformiad o Samson gan ei hen gôr. Cyrchodd am flynyddoedd i gyngerdd blynyddol Bethel, Castellnewydd Emlyn, i gynorthwyo'i gyfaill Tommy Morgan. Ac felly drwy'r wlad fel y gellir galw y tymor hwn (1870-75) y tymor cyngherddol yn ei hanes. Ni ŵyr y rhai a'i hadwaenai yn ei amser diweddarach,—pan oedd yr anadl yn pallu—am ei allu a'i swyn eithriadol fel unawdydd. Onibâi am ei wendid corff, a'i gariad mwy at gyfansoddi, gallasai fod ymysg ein goreuon. Gwyddom am rai a garai ei glywed uwchlaw neb ar gyfrif rhyw dynherwch melfedaidd a hollol unique—Emlynaidd—oedd yn ei lais.
Cwyna ef yn ei lythyr at Mr. Dd. Lewis—fod y canu "yn lladd cyfansoddi." Eto, nid annaturiol casglu fod yna berthynas hanfodol rhwng y canu yn y blynyddoedd hyn â chyfnod "y Gân"a gychwynnwyd—yn bennaf—gyda Bedd Llewelyn yn 1874. Y mae yna gysylltiad bywydol rhwng yr hyn a ddarllenwn â'r hyn a gynhyrchwn: cais meddyliau ad-gynhyrchu eu hunain ond cael y cyfrwng priodol—meddwl cydnaws. A diau fod ei waith yntau'n canu caneuon fel The Death of Nelson a The Bay of Biscay wedi symbylu ei feddwl i weithredu ar yr un llinellau. Ar yr un pryd, credwn mai braidd yn or-feirniadol yw dweyd ei fod ef wedi copïo'r Sais o leiaf, ei gollfarnu am wneuthur hynny. Yn sicr, gwasanaeth yw copio'r blwch ond peidio â lladrata'r perl. Ai nid benthyca ffurfiau cân oddi ar ei gilydd y mae'r cenhedloedd wedi ei wneuthur yn gyffredinol, fel yr oedd yr angen? Ac ai nid gwas cenedl yw'r un sydd yn meddu ar y canfyddiad i wneuthur hyn wrth weld yr eisieu ? Ai nid llygad