Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/98

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn hynod iawn, nid ei gyd-ganigwyr,—ag eithrio Dr. Parry—oedd ei gymdeithion mwyaf amlwg yn neffroad y Gân, ond triawd disglair arall, sef R. S. Hughes, William Davies, a D. Pughe Evans. Dilynwyd Bedd Llywelyn gan Can y Tywysog, a'r Gadlef, ac yn ddiweddarach, gan Hen Wlad y Menyg Gwynion, Gwlad yr hen Geninen Werdd, Y Gan a Gollwyd, etc., a chan doreth o ganeuon ar bob math nad oeddynt ond adgynyrchiadau, heb fod wrth gwrs yn adroddiadau. Y peth arall o bwys yn ystod y cyfnod hwn yw cyfansoddi a chyhoeddi ei gantawd Y Tylwyth Teg. Dengys ei lythyrau a'i ysgrifau (gwêl Pennod XI) ei fod yn dechreu blino ar gystadlu, ac nid yw'r gantawd hon—a'i ganeuon—ond mynegiant o'i awyddfryd cerddorol pan yn teimlo y cylch cystadleuol yn rhy gyfyng a chaeth. Yr oedd wedi cyfansoddi "Cantawd gysegredig o'r blaen (meddai ef wrth Mr. Dd. Lewis), ond nid oes gennym wybodaeth bellach am honno.[1] Mewn llythyr o'i eiddo at Alaw Ddu, dywed beth oedd ei nod wrth gyfansoddi hon:—

"Nid ymdrechais ysgrifennu gwaith llafurfawr, ond mewn gwirionedd, operetta fechan ysgafn; gan dalu, cyn belled ag y gallwn, gymaint o sylw i'r dramatic continuity ag a hawliai Wagner ei hun, ac heb esgeuluso, mi obeithiaf, y melodic form. Bernais mai doethach fyddai ei galw yn Dramatic Cantata nac yn Operetta—edrycha'r genedl hytrach yn ddrwgdybus ar y gair olaf hyd yn hyn."

Perfformiwyd y Gantawd yn Eisteddfod Genedlaethol Birkenhead (1878) ac yn Llundain, Abertawe, a llawer o fannau eraill, gyda llwyddiant a chymerdwyaeth.

  1. Os nad Gweddi'r Cristion ydoedd.