Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/100

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

egau y Cyfarfod Misol, ar ddiwedd y flwyddyn 1893,—"Yn ystod y flwyddyn—blwyddyn Trydydd Jubili y Cyfundeb—y collwyd Mr. David Rowland, Pennal, yr hwn, a chyfrif fel y mae rhai yn cyfrif oed y Cyfundeb, oedd yr un oedran â'r Methodistiaid —gŵr yn byw heb fachlud haul un amser—gŵr a phob gwynfyd yn y bumed o Mathew wedi ei ysgrifenu ar ei wynebpryd. Ganwyd ef yn un o flynyddoedd pwysicaf y Corff, a chafodd fyned adref yn sŵn y Jubili, a'r haulwen ar ei gymeriad ac ar ei wyneb heb ei symud ymaith na'i chymylu."

Gan faint ei sirioldeb a'i dymer dda gwnaeth ei fywyd ar ei hyd yn heulwen haf. Gofalai bob amser roddi y clod i Dduw am fendithion tymhorol ac ysbrydol. Trwy ystod misoedd y gwanwyn a dechreu haf, gwaith yr adar ydyw pyncio canu ar frig y coed, o fore hyd nos, fel pe byddant a'u holl allu yn clodfori y Creawdwr. Rhagorai gwrthddrych y Cofiant hwn ar adar y nefoedd, yn gymaint ag y byddai ef wedi ei feddianu yn llwyr ag ysbryd i ganu a molianu y Creawdwr Mawr y gauaf fel yr haf. Gyda'r fath barch y siaradai am Dduw, a'i waith, a'i dŷ, a'i drefn! Dyma un a dreuliodd dros bedwar ugain mlynedd yn y byd, gan wneuthur y goreu o bob peth yn ei gyraedd yr holl amser y bu ynddo. Yn y modd hwn gwiriodd yn llythrenol y geiriau a ddywedodd y bardd yn ei gân ragorol am dano:—

"Mae gwynfyd yn nghyraedd pob dyn yn y byd,
A geisio yn gywir ei gael,"