Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/99

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dref i brynu dillad,—wnai goods y wlad mo'r tro, byddai raid iddynt gael myned i'r dref i 'mofyn goods. Pobol yn meddwl eu bod yn gwybod y cwbl oedd y rheini, ac mae rhai o'r un sort a nhw i'w cael o hyd. Rhaid iddynt gael myn'd i'r dref i 'mofyn goods, a chystal goods bob tipyn yn y wlad,—yr un peth yn union ydyw, wedi dyfod o'r un Warehouse o Manchester. Ond maent hwy yn meddwl eu bod yn well am eu bod wedi eu prynu yn y dref. Maent yn meddwl en hunain yn odds o wybodus, a goods y wlad wedi dyfod o'r un lle o Mancheeter a goods y dref.

Beth ydi myn'd i siroedd eraill i 'mofyn pregethwyr? Yr un peth ydyw a myn'd i'r dref i 'mofyn goods, a chystal goods bob tamad yn eu sir eu hunain. Gadael pobol dda yn eu hymyl, a myn'd i siroedd eraill i 'mofyn pregethwyr! Myn'd i'r dre' i 'mofyn goods ydi peth felly!" Cyfodai ei lais fel cloch pan y nesai at ddiwedd y gyffelybiaeth hon.

Beth bynag fyddai yr amgylchiadau, yn rhywle i gyfeiriad codiad haul y trigianai efe. Pa un bynag ai yn siarad mewn cynulliad cyhoeddus, neu yn y cyfarfodydd cartrefol, neu mewn ymddiddan ymhlith cyfeillion, neu mewn saldra a chladdedigaeth pobl dduwiol, gwelai ef oleuni, ac yn ei ddull ysgafn o osod pethau allan, tynai eraill i weled goleuni. "Llawenhewch," meddai wrth rai o'i gyfeillion pan oedd saldra yn y ty, gan adrodd geiriau yr Apostol Paul wrth y Philippiaid, "llawenhewch yn yr Arglwydd yn wastadol"—encore—"a thrachefn meddaf, Llawenhewch." Ni chyfansoddodd Williams, Pantycelyn, ddim barddoniaeth erioed yn siwtio Dafydd Rolant yn well na'r ddwy linell ganlynol,—

"Gwawrddydd, gwawrddydd yw fy mywyd,
Gwel'd y wawrddydd 'rwyf yn iach."

Fel cadarnhad o syniad y wlad, ac o'r hyn a ddywedir yma am dano, gwnaeth un o weinidogion y sir, y Parch. D. Hoskins, M.A., y sylw cywir canlynol, yn yr Anerchiad gydag Ystad-