Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/102

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

 N y benod flaenorol rhoddwyd desgrifiad o hono yn edrych bob amser ar ochr oleu bywyd, yn cymeryd y wedd oreu, ysgafnaf, ar bob peth y byd hwn. Yr oedd ganddo ffydd gref ar wahan i bob ystyriaeth o grefydd,— ffydd mewn dynion, mewn rhagluniaeth. Credai yn nghanol tywyllwch ac anhawaderau y denai goleuni yn y man. Nid oedd ef o'r un dosbarth a'r cyfreithiwr hwnw, a gymerai holl ddynion y byd yn lladron, nes profi eu bod yn onest; i'r gwrthwyneb, er y gwyddai ef yn dda am dwyll ac anonestrwydd y byd, credai fod pawb yn onest, hyd nes profi eu bod yn anonest. A chymerai yn wastad yr un olwg ar bethau a Mr. Micawber yn y Novel, yr hwn a ddywedai yn wyneb ei holl anhawsderau, ac yn nghanol pa drallodion bynag y byddai ynddynt, "I am still expecting something will turn up,"—yr ydwyf o hyd yn gobeithio y try pethau allan yn well. Y mae dynion tebyg i hyn, heblaw bod yn hapus iawn iddynt eu hunain, yn rhoddi llawer o help i ymlid ymaith y tywyllwch oddiwrth eu cymydogion.

Ond pa faint mwy gwerthfawr ydyw ffydd gyda phethau y deyrnas yr hon nid yw o'r byd hwni Onid yw y dyn sydd yn credu llawer, yn debycach o fyned i mewn i'r bywyd, na'r hwn y mae ei ffydd yn gyfyng? Ac onid y dyn sydd yn llawn o ffydd, yw y mwyaf defnyddiol i gario gwaith y deyrnas ymlaen? Gŵr ffyddiog oedd yr hwn yr adroddir ei hanes yma. Yr oedd y wedd hon ar ei fywyd yn ei wneuthur yn dra gwasanaethgar i achos crefydd yn y byd.

Un o'r pethau amlycaf a chryfaf yn ei gymeriad ydoedd crefyddoldeb. Er ei fod yn hynod o chwareus a digrifol yn ei holl gysylltiadau, teuluol a chymdeithasol, eto yr oedd yn wr o berchen crefydd ddiambeuol. Crefydd yn gyntaf fu ei arwydd— air trwy ei oes. Yr oedd crefydd yn reddf lywodraethol yn ei natur trwy bob cyfnod ar ei fywyd. Mae hyn i'w weled ynddo