Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/107

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

II.

Y Parch. David Roberts, Rhiw.

Y mae yn chwith genyf feddwl na chaf ei gyfarfod mwy yn y fuchedd hon, na chlywed ei anerchiadau llawn o natur dda, synwyr ac arabedd. Dyn ar flaen ei oes oedd Mr. Rowland, ac mae yn anhawdd hebgor rhai felly. Ond felly y mae Pen yr eglwys yn gweled yn oreu, a'n dyledswydd ni ydyw ymostwng. Gobeithiaf y bydd i'r Ysbryd Glan ddwyn ar gôf i chwi eiriau yr hwn "a demtiwyd ymhob peth yr un ffunud a ninau," a'r Hwn oblegid hyny sydd yn medru cydymdeimlo a diddanu.

III.

Y Parch. David Edwards, gweinidog yr Annibynwyr, yn Pilton Green, ger Abertawe.

Wrth eistedd i lawr i ysgrifenu ychydig linellau, daw i'm côf lawer o'i ddywediadau ffraeth a'i gynghorion da. Yr oedd mwy o wreiddioldeb ac arbenigrwydd yn perthyn iddo ef na llu mawr o bobl. Safai yn hynod yn nghanol cymdeithas, a chariai ddylanwad da ar feddwl ei gyfeillion a'i gydnabod. Y mae heddyw, "wedi marw yn llefaru eto." Medrai gadw cwmni yn ddedwydd heb adael argraff ysgafn ar neb. Cefais lawer o fwynhad yn ei gyfeillach, ond ni theimlais erioed yn waeth yn ei gwmni. Cefais ynddo y cyfaill siriol a'r Cristion dedwydd. Yr oedd yn cydgyfarfod ynddo y gochelgar a'r agored ymron i berffeithrwydd. Crefydd oedd sail ei nodweddion, a choron gogoniant ei fywyd. Rhedai yr elfen hon fel edau trwy ei holl fodolaeth. Yr oedd dirgelwch yr Arglwydd gydag ef;