Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/119

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rhwyddineb mwyaf o berthynas i bob un a lefarodd, y dystiolaeth hon sydd wir.

CYFARWYDDO PERERINION.

Pererin ardderchog ydoedd, yr hwn a wnaeth lawer yn ystod ei ymdaith trwy y byd, i helpu achos Duw a dyn yn ei flaen. Heblaw fod ei grefydd ef ei hun ymhell uwchlaw pob amheuaeth, yn nghyfrif duwiolion ac annuwiolion, gwnaeth lawer i gyfarwyddo llawer pererin arall yn ei ffordd tua'r nefoedd. Yr oedd ei ddull cartrefol, a'i agosrwydd at bawb—hen ac ieuanc, tlawd a chyfoethog, yn enill pawb i ymddiried ynddo. Gyda'i gynghorion addas i blant, rhoes gychwyniad i lawer o honynt i gerdded y ffordd dda. Dywedai wrth lanc ieuanc o fugail, a fugeiliai ddefaid ffermydd y gymydogaeth, flynyddau maith yn ol, "John bach, wyt ti yn meddwl y bydd rhai o glogwyni ochrau yr Esgair a Chaerbage acw yn dystion yn nydd y farn, eu bod wedi dy glywed di yn gweddio?" John Williams oedd y bugail hwn. Y mae yn awr yn flaenor, ac yn byw yn nhy capel Maethlon. "Nid oeddwn i erioed wedi meddwl am weddio," meddai John Williams, wrth adrodd yr hanes, "nac wedi meddwl dim beth oedd canlyniadau gweddio, a bu'm yn gwrthryfela am flynyddoedd wedi hyny. Ond ni chefais byth lonydd i fy meddwl ar ol dywediad Dafydd Rolant, nes i mi ddyfod at grefydd." Dywedai John Williams yr hanes hwn pan yr oedd yn cael ei dderbyn yn aelod o'r Cyfarfod Misol yn Mhennal, Hydref 10fed, 1892.

YN OFALUS AM DDIEITHRIAID.

Bu lliaws mawr o fechgyn ieuainc a merched ieuainc yn wasanaethyddion yn ardal Pennal, o flwyddyn i flwyddyn. A'r hanes am danynt ydyw i Dafydd Rolant fod yn llwyddianus yn ei gynghorion personol a chyhoeddus iddynt—cynghorion