Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/149

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwneuthur defnydd o'u rhyddid, yr hwn sydd ganddynt byth er pan basiwyd Deddf Newydd y Claddedigaethau 1880. Cariwyd allan, fodd bynag, ei ddymuniad a'i orchymyn ef, a hyny yn hollol ddirwystr. Cyflawnwyd ei ddymuniad hefyd yn y trefniadau, er dangos ei anghymeradwyaeth i'r dull gwastraffus a chostus sydd yn y wlad gyda chladdedigaethau. Yr oedd torf fawr wedi ymgynull ynghyd, ac yr oedd yr angladd yn un o'r rhai mwyaf parchus ac anrhydeddus a welwyd un amser. Gwasanaethwyd wrth y ty cyn cychwyn gan y Parchn. W. Davies, Llanegryn, a J. Davies, Bontddu. Wedi hyny cynhaliwyd gwasanaeth byr yn y capel, y man yr oedd ef wedi arfer addoli ynddo, lle na buwyd yn cynal gwasanaeth cyffelyb erioed o'r blaen, a siaradwyd yn fyr gan Mr. E. Griffith, Y.H.. Dolgellau, a'r Parchn. E. Roberts, Dyffryn, a G. Parry, D.D., Carno, Cymerwyd rhan yn y gwasanaeth hefyd gan y Parchn. E. W. James, y Borth; J. Evans, Llanfaircaereinion; ac E. J. Evans, Penrhyndeudraeth. Ac ar lan y bedd gweinyddwyd gan y Parchn. S. Owen, Tanygrisiau; a D. Evans, M.A., Abermaw. Heblaw y personau hyn a fu yn gweinyddu yn yr angladd, yr oedd nifer y gweinidogion a'r blaenoriaid o Orllewin Meirionydd, ac o'r cylchoedd y tu allan i'r sir yn dra lliosog.

Oherwydd dieithrwch y dull hwn o gladdu yn yr ardal, parchusrwydd y gynulleidfa, a threfnusrwydd a gweddusrwydd y gwasanaeth, gallwn yn hawdd ddychmygu—er mai claddedigaeth, a'i gladdedigaeth ef ei hun ydoedd—gallwn yn hawdd iawn ddychmygu gweled David Rowland yn dychwelyd yn ol i'w gartref yn Llwynteg, a'i glywed yn dywedyd y peth cyntaf ar ol cyraedd y ty—"Beautiful."