Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/60

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

penderfynu myn'd a wnaeth y gwragedd. Dychwelodd Mrs. Rowland, modd bynag, yn lled fuan, wedi cael llwyr ddigon ar y cyfarfod. Ar ol pryd swper y noson hono, slipiodd Dafydd Rolant yn ddistaw bach, wrtho ei hun, i'w ystafell wely, a chlodd y drws. Erbyn i'r wraig fyn'd i fyny, nid oedd dim caniatad i agor y drws. Dywedai yr hwn oedd o'r tu mewn, nad oedd yn beth gweddus i un yn dilyn concerts a chyfarfodydd amheus ei ganlyn ef. Ac nid oedd wiw curo, a chrefu am gael myu'd i mewn, o'r tu allan y bu raid iddi aros am ysbaid o amser. Tra 'roedd y curo oddiallan yn myn'd ymlaen, a'r ateb oddimewn yn gwrthod, ymgasglai yr ymwelwyr yn y ty, a'r tai agosaf, i edrych beth oedd yn bod. O'r diwedd, dywedai hi, "Dafydd bach, wnes i 'rioed mo hyn â chwi." Aeth y gair hwn, meddai ef, at ei galon, ac ar hyny agorodd y drws.

Heb ymhelaethu gyda hanesion o'r fath, mae y pethau a ddywedwyd yn dangos yn eglur fod ddau yn gymwys iawn i dreulio eu hoes gyda'u gilydd. Ni fu cyfryngiad Rhagluniaeth nemawr erioed, mae'n debyg, yn amlycach nag yn ffurfiad yr undeb rhyngddynt. Y mae Mrs. Rowland yn aros hyd yr awr hon, onide gallesid dweyd ychwaneg am dani. Ond mae yn bur sicr na ddaethai ef y peth y daeth onibai hi. Eto, byddai ef arferol a dweyd, mai deugain gwialenod ond un a fyddai y gosb am bob trosedd o bob natur a maint. Ni bu dau erioed gyda'u gilydd mor gymwys i gario ymlaen fasnach. Yr oedd y ddau wedi deall yr egwyddor o gymeryd a rhoi yn drwyadl. Ac y mae hyn yn dra angenrheidiol er llwyddiaut wrth drin y byd. Medrai y naill fel y llall ddenu pobl; a gwnelai y naill fel y liall hefyd gymwynasau fwy na mwy, hyd at anghysur a cholled iddynt eu hunain ar y pryd, er mwyn y fantais a gyrhaeddid yn y pen draw. Yn eu caredigrwydd i achos crefydd, ac i weision yr Arglwydd, yr oeddynt yn hollol unol. Mae yr hyn a wnaeth y ddau yn yr ystyr hwn tu hwnt i bob cyfrif. Credent eu dau fod eu haelioni a'u gwasanaethgarwch