Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/59

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Lanidloes, ac un o'u cymydogion o Bennal. Nid oeddynt hwy yn adnabod y gwragedd o Lanidloes, na'r gwragedd yn eu hadnabod hwythau. Yr oedd yno hefyd eneth ieuanc yn y cwmni. Siaradai y gwragedd yn fan ac yn fuan gyda'n gilydd Chwareuai Dafydd Rolant gyda'r eneth fach. Toc, aeth y chwareu yn rhywbeth mwy; dechreuodd yr eneth a gwneuthur swn crio.

"Peidiwch Dafydd," ebe Mrs. Rowland, "peidiwch; gadewch lonydd i'r eneth fach." "O, gadewch iddo," ebe y gwragedd dieithr, "Wedi cael tropyn y mae o." "Dafydd wedi cael tropyn!" ebe Mrs. Rowland, gyda chryn dipyn o ysbrydiaeth, "Dafydd wedi cael tropyn! Naddo, chafodd Dafydd erioed dropyn, ond tropyn o dê." Ni ddangosodd neb un amser, fwy o anwybodaeth na'r gwragedd hyny o Lanidloes, pwy bynag oeddynt. Arferent bob haf er's llawer o flynyddoedd ymweled a Llandrindod. Un yn aros gartref i ofalu am y siop, tra buont yn cario y business ymlaen, ac yn myned yno pan ddychwelai y llall adref, ond y ddau gyda'u gilydd bob amser ar ol rhoddi y fasnach i fyny. Da y gwyr yr ymwelwyr a fynychent Landrindod am y difyrwch a'r mwynhad a gaent tra byddent hwy yno. Darfu i'r ddau ffurfio cyfeillgarwch â llu mawr o gyfeillion trwy eu hymweliadau, o dro i dro, a Llandrindod. Arferai ef gyda'i ddoniau parablus ddifyru y cwmpeini yno mewn llawer ffordd. Yr haf diweddaf y bu y ddau yno, sef yn mis Awst, 1893, aeth D. Rolant trwy un o'i branciau mwyaf chwareus, yr hyn a dynodd sylw ymwelwyr y tai agosaf, yn gystal a'r rhai oedd yn y ty lle yr arosent. Un noswaith cynhelid concert cyhoeddus yn y lle, ac yr oedd Mrs. Rowland yn awyddus i fyned iddo gyda rhai gwragedd eraill. Ceisiai Dafydd Rolant ei pherswadio i beidio, a dywedai nad oedd yn beth gweddus iddi hi oedd mewn oedran i fyned i le felly; ac ychwanegai, rhwng difri a chwareu, na chai ddim dyfod i'w ganlyn ef os elai i ddilyn cyfarfodydd o'r fath. Ond