Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/89

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ymyfrydai mewn gweithio yn yr ardd, a mwynhai brydferthwch natur, a gwaith y Creawdwr Mawr; a llawenhai o eigion ei galon wrth ddarllen a chlywed am weithredoedd da yn cael eu gwneuthur yn unrhyw gwr o'r ddaear.

Darllenai lawer hefyd y tymor hwn o'i fywyd. Ac o'r ffynhonell hon derbyniodd gysuron difesur yn niwedd ei oes. Arferai ddarllen trwy ystod ei fywyd, pharhaodd y duedd hon i gryfhau yaddo hyd ddiwedd ei ddyddiau. Darllenai i bwrpas hefyd; llyfrau a sylwedd a gwerth ynddynt. Ni byddai yn cwyno ar ei gof ychwaith, fel y gwna llawer o bobl wedi cyraedd i gryn oedran. Y rheswm am hyn yn ddiameu ydoedd, ei fod wedi darllen, a thrwy hyny roddi gwaith gwastadol i'r cof. Felly nid elai yr hyn a ddarllenai yn ofer. Dywedai yn aml, pe na buasai wedi arfer cael pleser mewn darllen, y buasai yn greadur annedwydd iawn. Tynai ddarlun dychmygol o hono ei hun fel un wedi cyraedd hen ddyddiau heb arfer a darllen dim yn ei fywyd. Darlun tywyll iawn oedd. Dychmygai weled ei hun yn hen wr, yn eistedd yn nghongl yr aelwyd, a'i ben o byd yn y tan, heb gael pleser mewn dim ond gwrando chwedlau. Yn lle hyny, ni bu yr un haner diwrnod yn segur. Darllenai bob peth a ddeuai i'r ty, pob papyr newydd y deuai o hyd iddo, a thrwy hyny byddai ganddo wybodaeth gweddol dda bob amser am y byd. Darllenai bron yr oll o'r Cyfnodolion Cymreig. Ac yn fynych iawn deuai llyfr newydd i'r ty, a byddai yn sicr o'i ddarllen drwyddo cyn pen ychydig iawn o amser. Dywedai y byddai yn arfer darllen y Drysorfa yr un fath â'r Beibl Hebraeg, gan ddechreu yn y diwedd, gyda'r hanesion cenhadol. Medrai roddi barn pur gywir ar bob peth a ddarllenai. Yr oedd gweinidog, o gryn enwogrwydd yn y pulpud, unwaith wedi ysgrifenu ysgrif i'r Drysorfa, ar bwnc lled ddieithr a dyrus i'r Cymry, ond nid oedd wedi llwyddo i roddi ond y nesaf peth i ddim goleuni ar y pwnc. Beirniadaeth Dafydd Rolant ar waith y gwr mewn un