Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/100

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

yn tremio i bob cyfeiriad—pwy feddyliai mai y gŵr cymharol ieuanc yna yr olwg ydyw awdur Rhys Lewis? Eto dyna fe. Pwy mor ddiymhongar, gwylaidd, ie, mor ddiddichell ? Er ei fod yn aml, aml, yn 'nhir neilltuaeth' yn ei fasnachdy, eto gadawer iddo eistedd yno wrth y pentan, penelin ei fraich ddeheu ar y bwrdd, a chetyn cwta rhwng ei ddannedd, a chydymaith gerllaw yn eistedd ar hen gadair ag y mae ei chefn wedi ei ysgar oddi wrth ei chorff . . . yn yr ymgom bydd wedi anghofio ei unigedd yn llwyr.. Mor ddifrifol yr edrycha ym myw ein llygad ! Gyda'r fath oslef y traetha ei syniadau o barthed i wahanol faterion ac amgylchiadau ! Treigla amser yn ei gwmni diddan bron yn ddiarwybod. Er yn ymwybodol ein bod ym mhresenoldeb 'gŵr mawr/ eto mae ei agosrwydd atom yn peri i ni deimlo yn berffaith glir rhag cyfeirio dim ato ei hunan, nac utganu clod ei alluoedd. Disgyblaeth ragorol i ddifa hunaniaeth llawer un fyddai treulio ychydig oriau yn athrofa Gostyngeiddrwydd gydag awdur Rhys Lewis"