Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/101

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

HANES EI WAITH LLENYDDOL

.

DODWN yma hanes byr o ymddangosiad ei weithiau llenyddol. Gellir dweud mai ar ôl i'w fywyd cyhoeddus ddod i derfyniad, o'r hyn leiaf fel pregethwr, y dechreuodd ei yrfa lenyddol. Ar ôl i'w iechyd dorri i lawr yn 1s76, a phan yn dihoeni am fisoedd, dechreuodd, ar gymhelliad taer y Parch. Roger Edwards, ysgrifennu ei bregethau i'r Drysorfa. Byddai yn feius ynom yn y lle hwn i beidio talu gwarogaeth i graffter hen olygydd hybarch y Drysorfa. Nid oedd Daniel Owen ond pregethwr ân- ordeiniedig, ac mewn cymhariaeth yn ddi-nod. Teg yw dweud iddo dynnu sylw arbennig rai o'n cynulleidfaoedd mwyaf deallgar. Y mae yn sicr nad ystyriai neb ef yn bregethwr poblogaidd; ond yr oedd y Parch. Roger Edwards yn abl i weled fod yna elfennau eithriadol yn y gŵr ieuanc yr oedd afiechyd wedi selio ei enau. Diau hefyd fod Mr Edwards yn ei gymell i ymgymryd ag ysgrifennu ei bregethau er