Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/102

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

mwyn ei dynnu allan ohono ei hun, oblegid yr oedd yr afiechyd wedi effeithio ar ei nervous system i'r fath raddau nes peri iddo ymdeimlo ag ef ei hun yn barhaus. Adwaenir y Parch. Roger Edwards fel dyn cryf, ac un a gymerodd ran fel arweinydd yn Nghyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd yng Ngogledd Cymru am flynyddoedd lawer; ond wrth graffu ar ei hanes yn y dref hon, gwelwn fod yna haen ddofn o dynerwch yn ei natur. Ac ni ddylid anghofio ei ofal tadol am y pregethwr ieuanc disyml a gododd megis wrth ei draed Drwy anogaeth, os nad dirwasgiad y golygydd, yr anfonodd Daniel Owen y pregethau a alwyd yn " Offrymau Neillduaeth " i'r Drysorfa. Enillasant sylw ar unwaith. Er ei fod wedi pregethu rhai ohonynt yn y cynulleidfaoedd, eto, ni ddarfu iddynt gynhyrchu y fath sylw a phan yn ymddangos ar ddalennau y Drysorfa. Wedi hyn ysgrifennodd ychydig o frasluniau Methodistaidd i'r un cyhoeddiad, ac yn fuan cyhoeddwyd yr Offrymau Neillduaeth a'r brasluniau yn un gyfrol. Efallai mai un o'r pethau a roddodd fwyaf o foddhad i'r awdur y pryd hwn oedd, gwaith Dr. Edwards yn ysgrifennu llythyr o gymeradwyaeth o'r llyfr i'r