Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/103

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Goleuad. Teimlai yr awdur fod cael canmoliaeth gan y fath ŵr yn ganmoliaeth yn wir, oblegid yr oedd Dr. Edwards yn sefyll bron mor uchel fel beirniad llenyddol ag ydoedd fel diwinydd. Ac nid ar air yn unig yr oedd y Doctor yn canmol, ond cymerodd 60 o gopïau o'r llyf r ei hunan, er mwyn eu rhannu rhwng efrydwyr y Bala, ac eraill. Yn ddilynol i hyn, gwasgwyd ar Daniel Owen i ysgrifennu ffugchwedl i'r Drysorfa. Ymddengys mai i Proff. Ellis Edwards yr ydym yn ddyledus am y syniad hwn. Yr oedd Proff Edwards wedi cael mantais arbennig i adnabod teithi meddwl ei gydymaith. Cyfeillachasant lawer a'u gilydd ar hyd y blynyddoedd; ac ar ôl i'r brasluniau ymddangos, cymhellodd ei dad, y Parch. Roger Edwards, i geisio gan Daniel Owen i ysgrifennu ffugchwedl Ac er iddo wrthod yn bendant ar y cyntaf, ni fynnai Mr Edwards ei nacáu; ac ar amlen y Drysorfa yn niwedd y flwyddyn 1878, gwelwyd hysbysiad y byddai y "Dreflan, gan Daniel Owen," yn ymddangos yn y flwyddyn ddilynol Eiddo y Parch. Roger Edwards yw y teitl, ac y mae bron yn sicr mai i'w ddylanwad ef ar yr awdur y rhaid priodoli ymddangosiad y Dreflan.