Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
DANIEL OWEN
FEL
YSGRIFENNYDD
YN y sylwadau dilynol ceisiwn nodi allan rai o nodweddion Daniel Owen fel ysgrifennydd, a thrwy hynny ateb y cwestiwn, - Pa beth sydd yn cyfrif am boblogrwydd ei weithiau? ac ymhellach, ceisiwn ymofyn, - Beth yw dylanwad ei ysgrifeniadau ar y wlad? Diamau y rhaid priodoli graddau o'i boblogrwydd i'r ffurf ffug-chwedleuol yr ysgrifennai ynddi Gwestiwn eang yw hwn, - Beth sydd yn cyfrif am boblogrwydd y dull hwn o ysgrifennu? yn enwedig yn y ffurf o ddisgrifiad o gymeriadau. Gwelir fod y ffurf hon yn boblogaidd ymhob gwlad wareiddiedig lle y maent wedi cyrraedd diwylliant meddyliol lled uchel Efallai y rhaid i wareiddiad gyrraedd aeddfedrwydd