Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/11

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwaith wedi ei orffen. Da gennym ddeall fod y bonheddwr adnabyddus, Mr Thomas Parry, U.H., o'r Wyddgrug, wedi ymgymryd â bod yn ysgrifennydd yn lle'r diweddar Mr Eaton. Yr ydym yn hyderu y bydd cyhoeddiad hanes bywyd yr awdur yn rhyw gymaint o fantais er cwblhau yr amcan uchod, a hynny heb ychwaneg o oediad.

Yn y Cofiant byr hwn yr ydym wedi ceisio rhoddi darlun syml o awdur Rhys Lewis, fel yr ymddangosai i'w gyfeillion. Oddiwrth ein hadnabyddiaeth o'i gymeriad gonest a dihocced yr ydym yn sicr na fuasai yn hoffi i ni geisio ei ddangos yn wahanol i'r hyn ydoedd; eto yr ydym yn hyderu y cydnabyddir nad ydym wedi troseddu chwaeth dda wrth lefaru am y marw.

Y mae gennym i gydnabod yn arbennig gymorth Mr Isaac Jones, o'r dref hon, yr hwn a fu yn gydymaith i Daniel Owen o'r adeg yr ydoedd yn blentyn hyd ei farwolaeth. Ganddo ef y cawsom y prif ffeithiau am febyd ac ieuengctyd ein gwrthddrych, yn ogystal a llawer o hanes y siop fu yn fath o Athrofa i Daniel Owen. Hefyd, cawsom hanes lled fanwl gan Mr Robert Williams, un o flaenoriaid Eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yr Wyddgrug, am gyssylltiad Daniel Owen â'r capel o'r adeg y derbyniwyd ef hyd nes i'w iechyd dorri i lawr. Derbynied y ddau gyfaill hyn ein diolch mwyaf cynnes. Yr ydym hefyd wedi ymgynghori âg amryw o frodyr sydd wedi treulio eu hoes yn y dref, er gallu penderfynu rhai pwyntiau yr oedd graddau o ansicrwydd gyda golwg arnynt.

Credwn ein bod wedi cydnabod yng nghwrs y llyfr y cyfeillion eraill oedd yn abl i daflu goleu i ni ar wahanol gyfnodau ym mywyd ein gwrthddrych.

Darfu Mr John Morgan (Rambler) yn garedig ysgrifenu rhai o'i atgofion i'w dodi i mewn, ond o herwydd prinder gofod bu raid cwtogi yr atgofion hyn. Trwy ganiatad golygydd y Goleuad, a chydsyniad yr awdwr, yr ydym yn cyhoeddi erthygl y Parch. Ellis Edwards, M.A., ar Fywyd ac Athrylith Daniel Owen, a ymddangosodd yn y Goleuad ar ôl ei farwolaeth. Rhoddodd Mr John Lloyd, golygydd y County Herald, ganiatad parod i ni gyhoeddi y desgrifiad