Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/12

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

personol o Daniel Owen, a ymddangosodd yn y County Herald flynyddoedd yn ôl. Bydd yr Adgofion a'r Desgrifiad hwn yn fantais i'r darllenydd i gyraedd adnabyddiaeth fwy cywir a chyflawn o'r hyn ydoedd Daniel Owen.

Nis gallwn ddwyn y Rhagarweiniad hwn i derfyniad heb gydnabod yn ddiolchgar garedigrwydd Mr Isaac Foulkes (Llyfrbryf), perchennog a golygydd y Cymro, am ganiatáu i ni wneud defnydd mor helaeth o'r Atgofion a ysgrifenwyd i'r Cymro gan Daniel Owen ei hun naw mlynedd yn ol. Teimlwn yn fwy dyledus i Mr. Foulkes yn gymaint a'i fod ef ei hun yn bwriadu dwyn allan Gofiant helaeth o Daniel Owen.

Derbynied Llyfrbryf, ynghyd â'r oll o'r cyfeillion a nodwyd, ein diolch mwyaf cywir am eu cymorth gwerthfawr.

Gwelir fod yr erthygl a ysgrifennodd Daniel Owen i'r Drysorfa, ar ol marwolaeth ei hen olygydd, y Parch. Roger Edwards, wedi ei dodi i mewn ar ôl y portread o "Gymeriadau Methodistaidd." Heblaw fod yr erthygl yn werthfawr ynddi ei hun fel darlun cywir a chyflawn o un yr oedd yr awdur yn dra dyledus iddo, ceir yn yr erthygl hefyd enghraifft nodedig o allu'r ysgrifenydd i sylwi, a'i fedr i ddesgrifio. Y mae'r erthygl hefyd yn dangos nodweddion arbenig arddull Daniel Owen. Dodwyd i mewn y ganig dlws a gyfansoddodd y boreu Nadolig diweddaf y bu fyw, a'r hon sydd yn rhoddi gwelediad i ni i mewn i deimladau yr awdur tua diwedd ei fywyd.

Ydwyf, yr eiddoch yn gywir,
JOHN OWEN.

YR WYDDGRUG,

Tachwedd 22ain, 1899