Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/132

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

drefn, a chywreinrwydd cynllun, yn gystal ag am ddarlunio cymeriadau; ond fel un sydd yn meddu gwelediad treiddgar, dychymyg bywiog, cydymdeimlad eang ac arabedd di-ball, saif Daniel Owen yn uchel iawn ymysg llenorion unrhyw wlad." Clywid rhai yn cwyno o herwydd fod Daniel Owen wedi cyfyngu ei hun i gylch bychan, i un dref, ac yn arbennig i gylch un enwad bychan Cymreig. Diamau fod y cyhuddiad yn wir, a rhaid cydnabod, ysywaeth, fod y ffaith hon yn milwrio rhyw gymaint yn erbyn darlleniad ei weithiau; ond credwn mai i'r ffaith ei fod yn disgrifio y bywyd yr oedd ef yn hollol adnabyddus ohono y ceir un rheswm am ei lwyddiant; a chredwn mai i'r graddau yr oedd yn eangu cylch ei ddisgrifiadau, i'r graddau hynny yr oedd yn colli mewn grym amwyster; y mae swyn ei ddisgrifiadau i'w briodoli i fesur mawr i'r ffaith eu bod yn ffrwyth ei sylw a'i atgofion cyntaf a mwyaf cysegredig ef ei hun. Teimla y darllenydd eu bod yn true to nature, chwedl Wil Bryan. Yr oedd yr awdur, fel yr ydym eisoes wedi cyfeirio, yn un a dreuliodd fywyd hynod gartrefol, os nad neilltuedig. Yn y dyddiau hyn rhoddir bri mawr ar yr ysgol Ysgotaidd o nofelwyr; y mae yr ysgrifenwyr