Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/133

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

hyn yn sicr yn cyfyngu eu hunain i gylch bychan; ac onid un elfen o swyn yn ei nofelau yw eu bod yn cynnwys portread o gymeriadau nad oedd y byd oddi allan iddynt yn eu hadnabod? Ac nid ydym yn barod i addef mai diffyg yn ein hawdur ydoedd cyfyngu ei ddisgrifiadau i fesur mawr i'r cylchoedd yr oedd ef ei hun wedi troi ynddynt ar hyd ei oes; dylid edrych arnynt fel portread wedi eu lliwio gan ddychymyg yr awdur o ffurfiau neillduol o gymeriadau crefyddol a gwledig tua chanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Nis gall neb ddarllen nofelau Daniel Owen heb sylwi pa mor hapus ydyw wrth roddi enwau i'r cymeriadau a disgrifiad- enwau sydd yn gafael yn y cof; ymddengys mai ei arfer ydoedd dewis enwau ychydig o'r ffordd gyffredin, enwau ysgrythurol yn fynych, megis Abel Hughes, Enoc Huws, Jeremiah Jenkins, neu ynte gyfenwau Seisnig ac estronol, megis Wil Bryan, Thomas Bartley, Trefor, Denman, a Solet, ac y mae yn ffaith am amryw o'r enwau hyn, fod yr awdur nid wedi eu llunio ei hunan, ond yn hytrach wedi benthyca enwau oeddynt yn dra adnabyddus iddo ym mlynyddoedd ei febyd a'i ieuenctid; ac nis gallwn fyrned heibio i'r ffaith fechan, ei