Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/140

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

brif gymeriadau, megis y fam Biwritanaidd Mari Lewis, y duwiolfrydig Abel Hughes, y pert a'r direidus Wil Bryan, ie, hyd yn oed y trwsgl Thomas Bartley. Ceir yn ei ddisgrifiadau awgrymiadau gwerthfawr gyda golwg ar fywyd ein heglwysi, oblegid y mae wedi rhoddi darlun byw o gymeriadau plentynnaidd, a hunandybus megis John Aelod Jones, o gymeriadau anhydrin megis Jeremiah Jenkins, ac o rai twyllodrus i'r gwraidd, megis Captain Trefor; ac yn ei ddisgrifiad o ddewisiad Blaenoriaid neu Fugail y mae wedi rhoddi cynhorthwy i eglwysi ganfod y peryglon sydd yn anwahanol gysylltiedig â'r rhyddid a ganiatâ ymneilltuaeth iddynt; ac yn bennaf oll, y mae tôn foesol ei weithiau yn iachus, tra y mae yna dosturi yn cael ei ddangos tuag at y gwan, eto nid yw yn ceisio bychan drwg pechod. Y mae halen Piwritaniaeth yn treiddio drwy ei lyfrau, ac er ei fod yn dwyn cymeriadau brith i mewn, a thrwy hynny, o dan angenrheidrwydd i ddisgrifio ffurfiau cymharol isel o fywyd, ac felly ddefnyddio rhai ymadroddion sydd yn tueddu at fod yn gwrs, eto y mae argraff gyffredinol ei ysgrifeniadau yn dda; ac yn ei lyfrau cyntaf , lle y mae yn