Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/139

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

briodoli i fesur i ddylanwad y ffug-chwedlau a ddarllenir; a diamau gennym fod yr un achos yn cyfrif, i raddau, am ymddieithried llawer o blant yr Ymneilltuwyr eu hunain oddi wrth grefydd eu tadau. Yr oedd Daniel Owen yn hynod gyfarwydd â nofelau Seisnig, yn un o'r rhai mwyaf cyfarwydd, efallai, yng Nghymru, a chlywsom ef yn addef ei fod wedi teimlo eu hannhegwch at Ymneilltuaeth ac at grefydd efengylaidd; ac un o'r cymhellion a barodd iddo ddisgrifio yr hyn a welodd ac a glywodd ymysg ei bobi ei hun ydoedd ceisio unioni y cam a wneid â hwy. Daeth ei lyfrau ef i ddwylaw rhai na feddylient am ddarllen Hanes Crefydd yng Nghymru, gan ein haneswyr, nag yn y llu o Gofiantau sydd wedi ymddangos. Y mae ei weithiau hefyd yn llawn o addysg i'r neb a ystyrio; nid yw yr hwn na wel ond yr elfennau digrifol a chwareus sydd yn ei nofelau wedi deall gwir ystyr ei weithiau; ceir ynddynt lawer o wersi ar y modd i ymddwyn mewn llawer o amgylchiadau bywyd cyffredin, yn ogystal â chysylltiadau crefyddol Treiddia drwyddynt elfen gref o synnwyr cyffredin, a deffry y gynneddf hon, os; gellir ei galw felly, yn y darllenydd; y mae i synnwyr cyffredin yn nodweddu yr oll o'i