Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/152

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

YR ANMHOSIBLEWYDD I GRIST FOD

YN GUDDIEDIG

"Eithr ni allai Efe fod yn guddiedig."—MARC vii. 24.

A OEDD ar Grìst eisieu bod yn guddiedig? Mae rhywbeth yn nghyflëad y geiriau gan yr Efengylwr ag sydd braidd yn awgrymu ei fod. Ac os felly yr oedd, nid ydyw hyny yn beth i ryfeddu ato. Tuedd gyffredin dynion, mae yn wir, ydyw bod yn amlwg; a mawr ydyw yr ymdrech am wneyd arddangosiad a thynu sylw. Ac nid y lleiaf o'r pethau annymunol i'r teimlad ynglyn â marw ydyw, fod dyn yn cael ei guddio o'r golwg; ac y mae yn rhyw gysur i feddwl dyn, hyd yn nod yn yr amgylchiad