Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/16

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

DANIEL OWEN

GANWYD Daniel Owen ar yr 20fed o Hydref, 1836, yn Maesydrê, yr Wyddgrug. Enw ei dad ydoedd Robert Owen, ac enw morwynol ei fam ydoedd Sarah Edwards. Brodor ydoedd ei dad o Ddolgellau; ond yr oedd wedi symud pan yn lled ieuanc i weithio i'r mwnau yn Sir Flint. Cawn mai yn Rhesycae yr aeth ei dad a'i fam i fyw gyntaf ar ol priodi. Gyda golwg ar Robert Owen, dywed Daniel Owen yn y braslinelliad o'i fywyd a anfonodd i'r Cymro am Fehefin 1af, 1891, nad oedd dim neillduol yn ei dad am a wyddai ef, ond ei fod yn gymydog da, yn ddyn gonest, ac yn Gristion cywir. Yn yr hanes a ysgrifenwyd gan y diweddar Barch. Owen Jones o Landudno—yr Wyddgrug y pryd hwnw—am y trychineb a gymmerodd le yng ngwaith glô yr Argoed, pryd y collodd Robert Owen, yn ogystal a dau fab iddo, eu