Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bywydau, dywedir am dano,—"Cawsai aml a blin gystuddiau yn y blynyddoedd diweddaf, ond yr oedd lle i feddwl ei fod yn ofni Duw yn fwy na llawer. Byddai yn ddyfal ac astud iawn yn yr arferiad o foddion gras; a'i ymdrech dwys yn ddiau oedd am ymddwyn yn addas i efengyl Crist."

Ymddengys mai gŵr dysyml ydoedd, heb fod ynddo unrhyw arbenigrwydd o ran talent. Yn wir, sylwa ei fab,—"Os oes ynof fymryn o dalent, yr wyf yn credu i mi ei etifeddu o ochr fy mam." Ganwyd a magwyd ei fam yn Llanfair, ger Rhuthun. Yr oedd ei daid o ochr ei fam yn berthynas i Thomas Edward , ac yr oeddynt ar delerau cyfeillgar iawn. Byddai y ddau gâr yn fynych yn ymryson prydyddu. Bu ei fam pan yn eneth lled ieuangc yn gwrando laweroedd o weithiau ar interliwdiau Twm o'r Nant, a dysgodd lawer o honynt ar ei chôf, a gallai eu hadrodd yn ei hen ddyddiau, a dywed ei mab y byddai yn arfer settlo pob cwestiwn drwy ddifynu llinell o weithiau Twm. Ymddengys mai nid interliwdiau Twm oedd yr unig rai y bu yn eu gwrando yn nyddiau ei hieuengctid; yr oedd ei mab yn cofio ei chlywed yn son am eraill. Nid dyma'r unig ddylanwadau, pa fodd