Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/184

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

flaenffrwyth ei ddefaid ac o'u brasder hwynt. Trwy ryw arwydd amlwg, fe ddarfu i'r Arglwydd ddangos ei gymeradwyaeth i offrwm Abel, a'i anghymeradwyaeth i offrwm Cain. Paham y darfu i'r Jebofah ymddwyn felly, ni's gwnawn ymofyn yn y fan yma. Cain, wrth weled y gymeradwyaeth a gafodd ei frawd, a lanwyd o ddigofaint; ac fe fethodd a pheidio ei ddangos. Fe "syrthiodd ei wynebpryd," medd yr hanes; fe wisgodd ei wyneb drem ddigofus, fe laesodd ei aeliau. Darfu i'r Arglwydd ei geryddu am hyn. "Paham y llidiaist ?" meddai Duw, phaham y syrthiodd dy wynebpryd? Os da y gwnai, oni chai oruchafiaeth?" Ond fe fu y cerydd yn aflwyddiannus; a diwedd yr hanes ydyw ddarfod i Cain ladd ei frawd!

Yn awr, a ddarfu i ni erioed feddwl mai nid ar unwaith y gallodd Cain gyrhaedd y tir yma mewn drygioni a chreulondeb? Nid mewn diwrnod y gallodd ddyfod i'r ystad o feddwl i'w alluogi i fod yn llofrudd, ac yn enwedig yn llofrudd ei frawd. Mae yn rhaid i ni gofio na chafodd efe lawer o gymhellion i hyn, ac na chafodd ei lygru gan lawer o esiamplau drwg, na'i hudo gan lawer o gymdeithion drwg; ond rhywbeth oedd hyn yr oedd ef ei hun wedi ei