fagu yn ei fynwes am lawer o amser, ac, o bosibl, am lawer o flynyddoedd. Mae yn ddiammheu fod Cain yn wrthddrych sylw neillduol y diafol, yr hen sarpb oedd wedi twyllo ei rieni. Nid rhyw lawer o amser oedd er pan yr oedd yr Arglwydd wedi dyweyd wrth y diafol, "Gelyniaeth hefyd a osodaf rhyngot ti a'r wraig, a rhwng dy had di a'i had hithau; efe a ysiga dy ben di, a thithau a ysigi ei sawdl ef." Mae yn sicr i'r geiriau hynod hyn suddo yn ddwfn i feddwl y diafol, yn gystal ag Efa; ac os darfu i Efa dybied, pan anwyd Cain, fel y mae yn ddilys iddi wneyd, ei bod wedi cael cyflawniad o'r addewid hon am Had y wraig i ysigo pen y sarph, mae yr un mor resymol i ni feddwl fod diafol wedi tybied yr un peth. Pan anwyd Cain, yr oedd yn naturiol i'r gelyn uffernol ymson, "Wel, dyma yr Had'y darfu i'r Arglwydd Dduw fygwth oedd i ysigo fy mhen i wedi dyfod! A hwn y bydd yn rhaid i mi ymladd bellach; hwn fydd fy ngelyn mawr! Ni thynaf fy sylw oddiarno na dydd na nos; mi a'i gwyliaf bob moment. Ah! beth os gallaf ei wneyd yn Cain—yn gynnysgaeth i mi, ac nid i Efa? Mi a blanaf fy egwyddorion fy hunan yn ei gyfansoddiad; mi a'i hudaf ef fel yr hudais ei fam
Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/185
Gwedd