Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn ei breichiau. Yr oedd iddi chwaer yn gwasanaethu yng Nghaer, a chwaer arall yn gwasanaethu chwe' milltir tudraw i Gaer. Cariwyd y plentyn y chwe' milltir hwn gan y chwaer o Gaer. Dychwelodd yn ol i'r Wyddgrug y noson honno, wedi cerdded ar ddiwrnod gwresog 44 o filltiroedd, ac wedi cario'r plentyn 38 o filltiroedd." Profa hyn ei bod o gyfansoddiad eithriadol o wydn; ond gwnelai ein tadau orchestion mewn cerdded yn y blynyddoedd hyny. Cafodd fyw i oedran mawr. Dioddefodd ingoedd am flynyddoedd ar amserau oddiwrth y cancer, yr afiechyd o ba un y bu farw yn y flwyddyn 1881, yn 83 mlwydd oed.

Bu i Robert Owen a'i briod chwech o blant—pedwar o fechgyn a dwy o ferched. Pan nad oedd Daniel ond 7 mis oed, cymerodd amgylchiad le a adawodd ei ôl ar ei holl fywyd, sef gorlifiad Gwaith Glo yr Argoed, hanner milltir gerllaw tref yr Wyddgrug, pryd y collodd un-ar-hugain o weithwyr eu bywydau, ac yn eu plith Robert Owen a'i ddau fab, Robert a Thomas. Taflodd y digwyddiad alaethus hwnnw oleuni ar aelwyd Robert a Sarah Owen, Maesydrê. Yn hanes y ddau fachgen—un yn ddeuddeg a'r llall