oddeutu deg oed, gwelwn y fath gartre oedd ganddynt. Dyma fel yr ysgrifena y Parch. Owen Jones am danynt:—
"Robert Owen, un hynod am ganu Hymnau oedd yr un bychan yma, arferai ganu yn hynod o siriol yn yr addoldy yn wastadol; wrth fyned at ei waith yn y plygeiniau atseiniau Emynau Dirwest, neu ynte Emynau'r Ysgol Sabbothol, ar y dôn 'Hyfryd' gyda phereidd-dra neilltuol; a phan oedd gyfyngaf a duaf arnynt yn eu carchar chwith, wedi i'r dwfr gau arnynt, efe a roddai yr emyn prydferth a ganlyn allan, yr hon a ddatseinid â llawen floedd gan berchenogion ffydd yng nghrombil y ddaear, pan oedd eu cnawd a'u natur yn dechrau pallu, a gobaith am un ymwared, ond drwy angeu, wedi ei golli:—
'O fryniau Caersalem ceir gweled,'" &c.
Am y bachgen arall Thomas, dywedir,— "Y bachgen hwn oedd un tebyg iawn i fachgen duwiol; dwysach a difrifolach ei ymddiddanion a'i ymddygiadau na'r rhan fwyaf o'i gyfoedion, Trysorai rannau helaeth o'r Ysgrythyrau yn ei gôf, a phan ellid cael y llaw uchaf ar ei wylder, ymddiddanai am bethau hanfodol crefydd fel