Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hen Gristion profiadol." Credwn mai efe oedd yr hynaf o'r ddau.

Y mae Daniel Owen yn ei fras-linelliad o'i fywyd wedi desgrifio amgylchiadau ei gartre yn y geiriau dwys a ganlyn:— "Gadawyd fy mam yn weddw gyda phedwar o blant - dau fab a dwy ferch — myfi yn blentyn saith mis oed. Amgylchiad ofnadwy oedd hwnnw i fy mam, a bu agos allan o'i phwyll am lawer o wythnosau, gan godi bob awr o'r nos am amser wedi claddu ei gŵr a'i dau fab, ac agor y ffenestr gan ryw led-ddisgwyl eu gweled yn dyfod adref o'r gwaith. Yr oedd damweiniau o'r fath yn bethau lled anghyffredin y dyddiau hynny, a chynhyrfwyd y wlad drwyddi oll." Gwnaeth yr amgylchiad trist hwn argraph annileadwy ar y plentyn ieuangaf. Agorodd ei ymwybyddiaeth megis o dan gysgod pruddaidd y trychineb ofnadwy. Bu boddiad ei dad a'i ddau frawd yn achos i bruddhau ffurfafen y cartre, ac arweiniodd y teulu i wybod beth ydoedd tlodi, os nad angen. Dyfynwn eiriau Daniel Owen ei hun,— "Drwy ymdrechion y Parch. Roger Edwards, yr hwn oedd ŵr ieuanc newydd ddyfod i'r Wyddgrug, a'r Parch. Owen Jones, diweddar o Landudno, ac yr wyf yn meddwl y Parch. Thomas Jones,